Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (198)v2 |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
|
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
|
4 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NNDM5502
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd i wahardd y defnydd o sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod 2.1 miliwn o oedolion yn y DU, yn ôl amcangyfrif, yn defnyddio sigaréts electronig ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod canllawiau iechyd y cyhoedd oddi wrth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ‘Tobacco: harm-reduction approaches to smoking’ yn cefnogi’r defnydd o gynnyrch trwyddedig sy’n cynnwys nicotin i helpu pobl i ysmygu llai neu i roi'r gorau i ysmygu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r dystiolaeth sy’n sail i’r cynigion ar sigaréts electronig, er mwyn darparu eglurder ar gyfer cyfiawnhau'r cynigion hyn ym Mil Iechyd y Cyhoedd.
|
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5504 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod stryd fawr defnydd cymysg ac economi briodol gyda'r nos yn allweddol i sicrhau goroesiad y stryd fawr yng Nghymru;
2. Yn nodi'r cysylltiad rhwng twristiaeth, treftadaeth ac adfywio;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol, ardaloedd gwella busnes a phrosiectau datblygu ddull cydgysylltiedig o ran adfywio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, rhoi ‘cyrff cyhoeddus,’ ar ôl ‘awdurdodau lleol,’.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi awdurdodau lleol i gadw cyfran o ardrethi busnes i ysgogi twf economaidd a phrosiectau adfywio lleol.
|
6 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5505 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu rhwydwaith rheilffordd cyflymder uchel HS2 yn Lloegr.
2. Yn cydnabod y rhagwelir y bydd datblygu HS2 yn cael effaith negyddol gyffredinol ar economi Cymru.
3. Yn gresynu, hyd yma, na chadarnhawyd y bydd Cymru yn cael unrhyw adnodd ychwanegol pellach drwy fformiwla Barnett yn sgîl gwariant Llywodraeth y DU ar HS2.
4. Yn nodi pwysigrwydd hanfodol buddsoddi yn y seilwaith trafnidiaeth ar gyfer rhagolygon economi Cymru yn y dyfodol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid canlyniadol Barnett llawn neu unrhyw setliad ariannol teg arall, yn sgîl datblygu HS2.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei le:
‘y cyfleoedd y mae HS2 yn eu cynnig i gryfhau’r achos busnes dros drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.’
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anrhydeddu ei chytundeb gyda Llywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth i drydaneiddio rheilffyrdd de Cymru.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r cynnydd yng nghapasiti rheilffyrdd y DU yn sgîl datblygu HS2, a fydd yn galluogi rhagor o gerbydau cludo i deithio ar y rheilffyrdd ar hyd a lled y DU. |
Cyfnod Pleidleisio |
7 Dadl Fer (30 munud) NDM5503 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Parciau Cenedlaethol Cymru: Dychwelyd i'w gwreiddiau i gynllunio ar gyfer dyfodol cryfach
Bydd ailystyried y cymhelliant ar gyfer dynodi tri Pharc Cenedlaethol Cymru yn ein galluogi i asesu eu perthnasedd i Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Bydd cydbwyso'r buddiant lleol a'r arwyddocâd cenedlaethol yn hanfodol i'w dyfodol.
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 20 Mai 2014